Gŵyl Gwymon
16eg - 19eg Mai 2024
Tyddewi, Sir Benfro
Yr ŵyl gwymon gyntaf yng Nghymru
Mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau naturiol nad ydynt yn cael eu defnyddio o amgylch ein morlinau gyda’r potensial aruthrol i wella cymaint o agweddau ar ein bywydau bob dydd. Mae rhai yn ei alw'n seren y cefnforoedd ac eraill yn ei alw llwch aur y môr.
Mae Gŵyl Gwymon Cymru yn gyfle newydd i arbenigwyr yn y diwydiant, cadwraethwyr, gwleidyddion, buddsoddwyr, addysgwyr, pysgotwyr, ffermwyr, bwydwyr a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd i drafod a darganfod y buddion ariannol ac amgylcheddol sydd gan wymon i’w cynnig i’n cymunedau a’r wlad gyfan.Dysgwch a thrafodwch yr algâu morol anhygoel hwn, mewn cornel arbennig iawn o Gymru, lle mae purdeb ein dyfroedd a phŵer gwymon yn cael ei harneisio yn barod gan amrywiaeth o fusnesau lleol.
Beth Sydd Ymlaen
Trafodaeth a Sgyrsiau
Celf a Chrefft
Teithiau Cerdded Arfordirol
Cyrsiau Seashore
Adloniant byw
Fferm gwymon a physgod cregyn cyntaf Croeso Cymru sy'n eiddo i'r gymuned fasnachol gyntaf
Mwynhewch blasu coginio ac arddangosiadau
Chwilota
Yn ogystal â llawer mwy
Ble?
Tyddewi Sir Benfro
Ymunwch â ni yn Nhyddewi, Sir Benfro o ddydd Iau 16eg tan ddydd Sul 19eg Mai 2024 wrth i ni ddathlu ac archwilio’r cyfoeth amgylcheddol hwn o’r môr.
Dewch er mwyn:
Mae’r Gŵyl Gwymon yn gydweithrediad rhwng Câr Y Môr a The Really Wild Emporium
Ymweld â fferm wymon a physgod cregyn cymunedol masnachol cyntaf yng Nhgymru i ddarganfod sut i efelychu a fod yn rhan o'u model adfywio.
Trafod y potensial economaidd o pysgotwyr, chwilotwyr, ffermwyr gwymon a physgod cregyn, i gyd yn cydweithio i ddechrau gwrthdroi dirywiad cymunedau arfordirol Cymru.
Darganfod y cyfleoedd niferus i ddefnyddio gwymon: fel cnwd masnachol cynaliadwy, fel gwrtaith mewn amaethyddiaeth, fel cynhwysyn naturiol mewn colur, fel bwydydd a deunydd fferyllol.
Blasu’r bwyd bendigedig hwn a chlywed am ei fanteision iechyd niferus wrth yfed diodydd wedi'u trwytho a'u hysbrydoli gan wymon.
Archwilo morlinau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan chwilota a dysgu am ein toreth o rywogaethau gwymon brodorol.
Amgyffred â doniau niferus gwymon, gan gynnwys ei rôl hollbwysig wrth frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ei harddwch artistig a’i darian amddiffynnol ar gyfer bioamrywiaeth forol a’n harfordiroedd.
Datgelu wybodaeth goll ein hynafiaid a sut mae gwymon wedi bod yn rhan o'n treftadaeth Gymreig ers canrifoedd.
Ymuno â gweithdai creadigol, teithiau cwch, teithiau ‘cerdded a siarad’, arddangosiadau coginio, cyfleoedd blasu, seminarau diwydiant, a llawer mwy.
Bydd mwy o wybodaeth am yr amserlen o ddigwyddiadau a sut i archebu tocynnau yn dod yn fuan.
Cofrestrwch i gael diweddariadau
Eisiau cadw mewn cysylltiad? Gallwch gofrestru i ymuno â'n rhestr bostio i gadw’n gyfarwydd â phopeth Gwymon!Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn unrhyw gwestiynau gan anfon ebost at info@festivalofseaweed.co.uk